Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Ionawr 2024
Amser:
09.18 -
11.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13686
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Mike Hedges AS Adam Price AS |
Tystion: |
Peter Keates, Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Peter Richards, - Rheolwr Gwasanaethau Rheoliaeth Adeiladu, Profedigaeth a Chofrestru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Charles Rigby |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gael eglurhad pellach yn dilyn eu hymateb i argymhellion yr adroddiad ar y cyd, sef 'Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru', gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Keates, Prif Weithredwr - Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) a Peter Richards, Rheolwr Gwasanaethau Rheolaeth Adeiladau, Profedigaeth a Chofrestru - Cyngor Abertawe, fel rhan o'i ymchwiliad i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.